Mae rheolau cynllunio yng Nghymru yn mynd i ffafrio twf economaidd yn hytrach na ffactorau amgylcheddol neu gymdeithasol.
Mae disgwyl i’r Llywodraeth gyflwyno’r newidiadau dadleuol yn ystod yr hydref, yn dilyn cwynion bod ceisiadau cynllunio a allai gyfrannu at yr economi leol yn cael eu gwrthod.
Bydd polisi Llywodraeth Cymru yn agosáu at un Llywodraeth Prydain sydd heddiw’n mynd i gyhoeddi bod rhwystrau cynllunio am gael eu lleihau er mwyn rhoi hwb i’r economi.
Mae David Cameron a Nick Clegg eisiau ei gwneud hi’n haws i fusnesau a theuluoedd ymestyn adeiladau a gwneud gwaith ar eu heiddo, gan obeithio bydd hyn yn arwain at fwy o weithgaredd economaidd.