Mae tri o filwyr o Awstralia wedi cael eu lladd a dau wedi eu hanafu yn Afghanistan ar ôl i ddyn yn gwisgo lifrai byddin  eu saethu.

Mewn digwyddiad ar wahân, cafodd dau o filwyr eraill o Awstralia eu lladd mewn damwain hofrennydd yn nhalaith Helmand.

Cafodd y tri milwr eu lladd pan ddechreuodd dyn danio gwn atyn nhw wrth iddyn nhw ymlacio yn safle’r fyddin yn nhalaith Uruzgan.

Roedd milwyr eraill wedi tanio gwn at y dyn, ond fe lwyddodd i ddianc o’r safle. Mae’r chwilio’n parhau bore ma am y llofrudd.

Mae’r ddau filwr arall gafodd eu hanafu mewn cyflwr sefydlog.

Dywedodd Prif Weinidog Awstralia Julia Gillard mai dyma’r “diwrnod gwaethaf” i’r wlad ers i’r rhyfel yn Afghanistan ddechrau.

Mae 38 o filwyr o Awstralia wedi cael eu lladd ers dechrau’r rhyfel yn Afghanistan.