Mae Barclays wedi cyhoeddi bore ma bod Antony Jenkins – pennaeth adran fusnes ac adwerthu’r banc – wedi cael ei benodi’n brif weithredwr.
Fe fydd yn cychwyn yn ei swydd yn syth. Fe fydd yn olynu Bob Diamond a oedd wedi ymddiswyddo fis diwethaf yn sgil yr helynt yn ymwneud â dylanwadu ar y gyfradd llog Libor.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Swyddfa Twyll Difrifol (SFO) gynnal ymchwiliad i daliadau gafodd eu gwneud rhwng y banc a buddsoddwyr yn y Dwyrain Canol.
Mae’r ymchwiliad yn ergyd arall i Barclays, yn dilyn ymchwiliad tebyg gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) fis diwethaf a’r helynt Libor.
Roedd y banc wedi cael biliynau o bunnoedd gan fuddsoddwyr yn y Dwyrain Canol pan oedd yr argyfwng ariannol yn ei anterth yn 2008, gan olygu bod Barclays wedi osgoi’r un tynged â Lloyds a’r Royal Bank of Scotland oedd wedi gorfod cael help gan y Llywodraeth.