Mae’r pryderon am ddyfodol JJB Sports wedi dwysau heddiw ar ôl i’r cwmni ddweud eu bod wedi methu diogelu’r arian oedd ei angen i ailwampio eu siopau.
Mae’r cwmni wedi cyhoeddi ei fod yn ceisio gwerthu’r busnes ond wedi rhybuddio cyfranddalwyr y gallen nhw golli eu harian os bydd cytundeb i geisio achub y cwmni.
Mae JJB Sports, sydd â 180 o siopau ac yn cyflogi 4,000 o bobl, wedi bod mewn trafferthion ers peth amser oherwydd gostyngiad mewn gwerthiant.