Liz Johnson
Ar ôl seremoni agoriadol a gafodd ei hysbrydoli gan wyddoniaeth, a’i llywio gan yr Athro Stephen Hawking, mae’r athletwyr yn dechrau creu eu sbarcs eu hunain heddiw.
Cafodd un o ganeuon Handel ei chanu yn y seremoni agoriadol gan y soprano o ardal Abertawe, Elin Manahan Thomas, ac roedd y nofwraig o Gasnewydd, Liz Johnson, wedi tyngu llw ar ran yr athletwyr.
Enillodd hi aur yn Beijing yn 2008, ac mae’r nofwraig o’r Rhondda, Nyree Kindred yn anelu am aur heddiw yn ei phedwaredd Gemau Olympaidd.
Enillodd Nyree Kindred arian yn Beijing a Sydney, ac aur yn Athen, ac mae’n cystadlu mewn rhagras a rownd derfynol y dull cefn heddiw.
Mae Mark Colbourne o Dredegar yn cystadlu heddiw hefyd ar y trac seiclo yn ei Gemau cyntaf. Torrodd asgwrn yn ei gefn yn 2009 mewn damwain wrth baragleidio ar Benrhyn Gŵyr ond mae wedi parhau â’i hoffter o chwaraeon er gwaetha’r digwyddiad.
Mae pump o Gymry yn cystadlu yn y tenis bwrdd heddiw – y ddeuawd Rob Davies a Paul Davies, Sara Head, Scott Robertson a Paul Karabardak o Abertawe.