Mae trefnwyr seremoni agoriadol y Gemau Paralympaidd wedi datgelu mai’r gwyddonydd Stephen Hawking fydd yn llywio’r noson heno.
Yn ystod seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd ddechrau’r mis roedd y pwyslais ar hanes a diwylliant poblogaidd, ond gwyddoniaeth fydd y prif destun heno.
Dywedodd un o gyfarwyddwyr artistig y seremoni, Jenny Sealey, y bydd hi’n “daith anhygoel sydd wedi cael ei hysbrydoli gan ryfeddod gwyddoniaeth.”
Bydd cyfeiriad at theori disgyrchiant Isaac Newton yn ystod y sioe a bydd y dorf o 60,000 o bobol yn cael eu hannog i gnoi afal yr un pryd, gydag afalau yn cael eu dosbarthu wrth i’r dorf gyrraedd.
Bydd yr actor Ian McKellen yn cymryd rhan a bydd cyfeiriadau at ddrama Shakespeare, Y Storm.
Mae disgwyl i nifer o berfformwyr ac artistiaid anabl gymryd rhan yn y seremoni, gan gynnwys peilotiaid awyren anabl o elusen Aerobility.
Mae’r fflam Baralympaidd wedi bod ar ei thaith olaf heddiw trwy strydoedd Llundain, a llwyddodd pedwar fflam-gludwr i ail-greu’r llun enwog ar glawr albwm y Beatles, Abbey Road. Ond mae’n ymddangos bod y fflam tua dwy awr yn hwyr yn cyrraedd rhai safleoedd ac mae na bryder na fydd y fflam yn cyrraedd pen ei thaith mewn pryd.