Yr Arlywydd Bashar Assad
Mae bom wedi ffrwydro yn adeilad gorsaf deledu llywodraeth Syria yn Namascus.

Yn ôl adroddiadau, cafodd o leiaf tri o bobl eu hanafu yn y ffrwydrad.

Mae’r adeilad, sydd hefyd yn gartref i orsaf radio’r llwyodraeth, yng nghanol y brifddinas Damascus.

Mae nifer o ymosodiadau wedi bod yn y brifddinas dros y misoedd diwethaf wrth i’r rhyfel cartref yn y wlad waethygu, a’r pwysau ar yr Arlywydd Bashar Assad i ildio ddwyshau.

Roedd yr orsaf wedi llwyddo i barhau i ddarlledu er gwaetha’r ffrwydrad.