Usain Bolt
Cafodd dyn ei arestio neithiwr ar ôl iddo daflu potel ar y trac athletau wrth i redwyr y ffeinal 100 medr yn y Gemau Olympaidd baratoi i gychwyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Metropolitan fod dyn wedi bod yn gwneud sylwadau sarhaus cyn taflu’r botel a oedd wedi glanio ychydig lathenni tu ôl i’r rhedwyr.
Roedd y digwyddiad yn “wrthdyniad” meddai’r Americanwr Justin Gatlin, a ddaeth yn drydydd yn y ras.
Dywedodd yr heddlu na chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad.
Yn ol y disgwyl, Usain Bolt ennillodd y ras mewn 9.63 eiliad gan dorri’r record Olympaidd – yr ail amser cyflymaf mewn hanes.
Gorffennodd 7 allan o’r 8 y ras o dan ddeg eiliad – gan ei gwneud hi’r ffeinal cyflymaf ar gof a chadw.
1 Usain Bolt (JAM) 9.63
2 Yohan Blake (JAM) 9.75
3 Justin Gatlin (UDA) 9.79
4 Tyson Gay (UDA) 9.80
5 Ryan Bailey (UDA) 9.88
6 Churandy Martina (ISE) 9.94
7 Richard Thompson (TRI) 9.98
8 Asafa Powell (JAM) 11.99