Dai Greene
Ar ôl crafu drwodd fel un o’r collwyr cyflymaf, bydd Dai Greene yn rhedeg yn ffeinal y ras 400m dros y clwydi nes ymlaen heddiw.

Roedd disgwyl i gapten tîm athletau Prydain, sy’n hanu o Lanelli, fynd drwodd yn gyfforddus i’r rownd derfynol ond bu’n rhaid iddo ddibynnu ar y rasys eraill er mwyn iddo gael bod ar y llinell gychwyn heno.

Gorffennodd Dai Greene yn bedwerydd yn y ras gynderfynol, ac roedd pencampwr y byd mewn sioc yn syth ar ôl y ras gan nad oedd ei le yn y ffeinal yn bendant.

Ond mi fydd yn dechrau’r ras, sy’n cychwyn toc cyn 9 heno, yn y drydedd lôn.

Fe aeth Dai Greene i mewn i’r Gemau fel un o’r ffefrynnau i ennill medal aur, ond Felix Sanchez a Javier Culson oedd y cyflymaf yn y rasys yn arwain at y ffeinal.