Andy Murray - dathlu buddugoliaeth o'r diwedd
Fis union ar ôl colli i Roger Federer yn Wimbledon, mae Andy Murray wedi curo pencampwr tennis y byd ar yr un cwrt yn y Gemau Olympaidd.
Cipiodd yr Albanwr fedal aur i Brydain ar ôl ennill pob un o’r tair set 6-1, 6-2, 6-4 yn erbyn ei gyn-orchfygwr.
Dyma’r tro cyntaf i Brydain ennill medal aur yng nghemau tennis sengl y dynion ers 1908.
Roedd yr awyrgylch yn drydanol yn Centre Court o’r munud y camodd Andy Murray i’r cwrt, ac roedd bloeddiadau ei gefnogwyr yn dipyn uwch na’r hyn oedd yn y gemau fis yn ôl.
“Dyma fuddugoliaeth fwyaf fy mywyd,” meddai mewn cyfweliad yn syth ar ôl y gêm.
Yn union wedyn cychwynnodd anelu am fedal aur arall wrth ymuno â’i bartner Laura Robson yn y gemau dwbl cymysg.