Tom James
Mae Cymro arall, y rhwyfwr Tom James o Wrecsam, wedi ennill medal aur dros bedwarawd di-lywiwr dynion Prydain yn y Gemau Olympaidd.
Roedd y dynion yn un o ddau dîm o rwyfwyr o Brydain i ennill medal aur y bore yma gan i Kat Copeland a Sophie Hosking ennill y ras ysgafn yn ogystal.
Pumed, fodd bynnag, oedd y Gymraes Helen Jenkins yn y triathlon, ar ôl colli i Nicola Spirig o’r Swistir a groesodd y llinell yr un amrantiad â Lisa Norden o Sweden, gydag Erin Densham o Awstralia’n cipio’r fedal efydd.
Wrth ganmol camp ac ymdrechion y Cymry, meddai’r Athro Laura MacAllister, cadeirydd Chwaraeon Cymru:
“Rydyn ni wedi mwynhau 24 awr anhygoel o lwyddiannus i Gymru yn Llundain gyda Tom Jones yn ennill medal aur haeddiannol ym Mhedwarawd y Dynion heddiw i amddiffyn ei deitl a Geraint Thomas yn ennill aur gyda record byd newydd neithiwr.
“Rhaid inni dalu teyrnged hefyd i Helen Jenkins am ei pherfformiad hynod ddewr yn y triathlon y bore yma.
“Mae gofyn inni fanteisio ar y cyfleoedd arbennig hyn i wireddu’n huchelgais o ysbrydoli pob plentyn yng Nghymru i ymhyfrydu mewn chwaraeon a chreu cenedl o bencampwyr.”