Helen Jenkins
Mae cannoedd o bobl yn gwylio’r triathlon Olympaidd yn Llundain heddiw wrth i’r rhedwraig o Ben-y-bont, Helen Jenkins, geisio ennill ail fedal aur i Gymru yn y Gemau.

Mae’r rhedwraig 27 oed yn un o’r ffefrynnau fel pencampwr byd ac enillydd y ras brawf yn Hyde Park y llynedd. Enillodd yr ail safle yn nhriathlon Sydney ddechrau’r tymor a chyrhaeddodd y brig yn San Diego ym mis Mai.

Mae’r triathlon yn un o’r ychydig ddigwyddiadau yn y Gemau Olympaidd lle nad oes angen tocynnau ac mae’r torfeydd wedi bod yn llifo i Hyde Park ac i wylio’r beicio o flaen Palas Buckingham.

Mae hi wedi bod wrthi’n ymarfer yn galed ym Mhen-y-bont gyda’i chyd-aelodau o dîm Prydain, Vicky Holland a Lucy Hall.