Geraint Thomas yw’r Cymro cyntaf i ennill medal aur yng ngemau Olympaidd Llundain ar ôl buddugoliaeth ysgubol yn rownd derfynol ras beicio’r dynion yn y Velodrome neithiwr.

Ymysg y rhai oedd yn gwylio’r beiciwr 26 oed o Gaerdydd a chyd-aelodau ei dîm yn torri record byd oedd aelodau’r clwb beicio yr oedd yn aelod ohono’n ifanc – Maindy Flyers.

Dywedodd eu prif hyfforddwr, Alun Davies, ei bod hi’n amlwg o’r dechrau un y byddai Geraint Thomas yn cyrraedd y brig.

“Pan oedd yn 10 oed roedd yn dda iawn, ond erbyn yr oedd yn 13 roedd yn anhygoel,” meddai. “Erbyn hynny roedd eisoes yn curo bechgyn yn y cystadlaethau dan 16, ac erbyn roedd yn 16 roedd yn cymryd rhan mewn rasus hyd at 70 milltir o hyd.

“Dw i wir yn meddwl y gall ennill y Tour de France rywbryd yn y dyfodol.”

Y cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yw’r Cymro cyntaf hefyd i ennill medalau aur mewn dau Gemau Olympaidd yn olynol – y diwethaf oedd y marchog Richard Meade yn 1968 ac 1972.

Ymysg y rhai sydd wedi ei longyfarch y mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones.

“Llongyfarchiadau mawr i Geraint Thomas ar ennill medal aur gyntaf Cymrun yn Llundain 2012,” meddai. “Am berfformiad anhygoel gan Geraint a chyd-aelodau ei dîm wrth dorri record byd. Mae Cymru’n ymfalchïo’n fawr ynddo!”