Carl Robinson
Mae’r chwaraewr ganol cae, Carl Robinson, wedi ymddeol o bêl-droed er mwyn canolbwyntio ar ei swydd fel hyfforddwr yng Nghanada.

Yn wreiddiol o Landrindod, aeth Carl Robinson, 35, yn ei flaen i ennill 52 cap dros Gymru, gan sgorio un gôl.

Bydd yn aml yn ysgrifennu colofn i bapur newydd y County Times ym Mhowys ac yn ddiweddar cafodd ei enwi yn Ddinesydd y Flwyddyn yn ei dref enedigol.

Daeth ei gêm olaf dros ei wlad yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Mawrth 2009 yn erbyn y Ffindir. 

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Belarws ym 1999, ac aeth yn ei flaen i fod yn ‘seren y gêm’.

Chwaraeodd dros amryw o glybiau yn ystod ei yrfa gan gynnwys Wolves, Sunderland, Portsmouth, Norwich a Sheffield United.

Yn fwy diweddar bu’n chwarae dros Toronto a New York Red Bulls cyn symud yn ôl i Ganada yn 2010 i gynrychioli Vancouver Whitecaps, lle mae bellach yn hyfforddwr.