Rhys Griffiths yn cynrychioli Llanelli
Ychydig wythnosau’n unig ar ôl dychwelyd i’w hen glwb Port Talbot, mae’r peiriant goliau, Rhys Griffiths, wedi arwyddo ei gytundeb proffesiynol cyntaf gyda Plymouth Argyle – ag yntau’n 32 oed.

Roedd gan yr ymosodwr, sydd wedi bod yn brif sgoriwr Uwchgynghrair Cymru am y saith mlynedd ddiwethaf, amod yn ei gytundeb gyda Phort Talbot a oedd yn caniatáu iddo adael am glwb proffesiynol.

Dywedodd cadeirydd Port Talbot, Andrew Edwards, ei fod yn “hynod siomedig” o golli seren y tîm, ond ei fod yn “dymuno’n dda iddo am y dyfodol.”

Mae hi wedi bod yn wythnos anodd i’r clwb yn dilyn gwaharddiad ac arestiad un o’i chwaraewyr ar gyhuddiad o yrru negeseuon sarhaus i’r deifiwr Tom Daley ar Twitter.

“Fitness freak”

Fe sgoriodd Rhys Griffiths y gôl fuddugol mewn gêm gyfeillgar dros Plymouth, sy’n chwarae yng Nghynghrair 2 (League 2) ym mhyramid pêl-droed Lloegr, fis diwethaf.

Mae cyn gapten Cymru a rheolwr Plymouth, Carl Fletcher, eisoes wedi cyfeirio at Rhys Griffiths, sy’n ddyn tân llawn amser, fel “fitness freak.”

Mae’n debyg ei fod wedi derbyn sawl cynnig yn ystod ei yrfa i fynd dros Glawdd Offa i chwarae’n broffesiynol, yn ogystal â threulio amser ar dreialon yn y Swistir.

Dychwelodd i stadiwm GenQuip ar ôl chwe thymor gyda Llanelli, lle wnaeth o sgorio 180 o goliau mewn 181 gêm, a dod yn ail sgoriwr uchaf Uwch Gynghrair Cymru yn y broses.