Er ei fod yn chwarae gyda Tîm G bar hyn o bryd, mae’r ymsodwr Scott Sinclair wedi dweud ei fod yn awyddus i ddychwelyd i Abertawe wedi’r Gemau ac arwyddo cytundeb newydd.

Mae’r ymsodowr ym mlwyddyn ola’i gytundeb tair blynedd, ac roedd sibrydion y gallai adael y clwb o dde Cymru.

Ond mae wedi dweud yn bendant ei fod yn dychwelyd i nyth yr Elyrch ac yn awyddus i gydweithio gyda Michael Laudrup.

“Rydw i am fynd yn ôl ac rydw i’n saff o ddysgu llwyth o bethau gan y rheolwr newydd,” meddai.