Dai Greene
Prin yr oedd y Cymro, a chapten tîm athletau Prydain, Dai Greene, yn rhedeg erbyn diwedd ei ras 400m dros y clwydi wrth iddo ennill y rownd gyntaf yn gyfforddus.

Enillodd ei ras gyntaf o’r Gemau ag amser o 48.98.

Bydd rŵan yn mynd ymlaen i’r rownd gynderfynol yfory.

Mae amcangyfrifon cynnar yn awgrymu fod tua 80,000 yn gwylio’r cystadlu yn y Stadiwm Olympaidd yn Llundain heddiw.