Roedd heddiw’n ddiwrnod llwyddiannus iawn i dîm Olympaidd Prydain wrth iddyn nhw gyrraedd y pumed safle yn nhabl y medalau.

Fe enillodd Prydain dwy fedal aur ac un fedal arian o fewn pum munud y prynhawn ma.

Ond roedd siom yn y seiclo wrth i Victoria Pendleton a Jess Tarnish fethu allan ar gyfle i gystadlu am y medalau yn y Sbrint Tîm a hynny ar ôl iddyn nhw dorri record Olympaidd yn y rhagbrawf.

Cafodd y ddwy eu diarddel o’r ras am dorri rheolau yn y ras gyfnewid.

Daeth Tim Baillie a Etienne Stott yn gyntaf yn y canŵ slalom, gyda’u cyd-Brydeinwyr David Florence a Richard Hounslow yn hawlio’r fedal arian.

Bu bron i Gemma Gibbons sicrhau medal aur arall i Brydain ychydig dros hanner awr ar ôl llwyddiant ysgubol y canŵ slalom, ond bu rhaid iddi setlo am arian yn ffeinal y jiwdo.

Sicrhaodd y saethwr Peter Wilson bedwaredd fedal aur Prydain yn y Gemau yng nghystadleuaeth y trap dwbl.

Roedd Prydain eisoes wedi sicrhau medal arian yn y rhwyfo pedwarawd ysgafn y bore ma.

Bydd y Cymro Geraint Thomas yn cystadlu yn Nhîm Sbrint y dynion nes ymlaen y prynhawn ma.