Tom Daley a'i gyd-ddeifiwr Pete Waterfield
Mae’r heddlu wedi arestio dyn 28 oed ar ôl i neges sarhaus gael ei anfon at y deifiwr ifanc, Tom Daley, ar Twitter.

Cafodd y dyn 28 oed ei gwestiynu mewn gorsaf heddlu yng Nghastell-nedd a’i ryddhau ar fechnïaeth gan Heddlu De Cymru.

Ddoe cafodd chwaraewr o Uwchgynghrair Cymru ei wahardd gan ei glwb ar ôl i neges gael ei yrru o’i ffôn yn sarhau’r deifiwr ifanc.

Cadarnhaodd Clwb Pêl-droed Port Talbot ddoe fod ei chwaraewr canol cae, Daniel Thomas, yn rhan o ymchwiliad mewnol gan y clwb.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu ei bod nhw wedi “arestio dyn 28 oed o ardal Port Talbot mewn cysylltiad â sylwadau sarhaus a wnaethpwyd ar wefan gymdeithasol Twitter.”

Yn ôl adroddiadau, cafodd neges homoffobig ei yrru at Tom Daley, 18, ar ôl iddo fethu ag ennill medal ddydd Llun.

‘Jôc’

Pwysleisiodd swyddogion CPD Port Talbot fod Daniel Thomas, 28, wedi gadael ei ffôn a bod rhywun arall wedi gyrru’r neges fel “jôc”.

“Gall Glwb Pêl-droed Port Talbot gadarnhau fod Daniel Thomas wedi’i wahardd o’r clwb hyd nes i ni orffen yr ymchwiliad mewnol,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Ar ôl siarad â’r chwaraewr dan sylw am beth amser, rydym ni o’r farn ei fod wedi gadael ei ffôn ar gamgymeriad a bod rhywun wedi chwarae tric ffôl iawn.”

Does gan y digwyddiad ddim cysylltiad â’r digwyddiad wnaeth arwain at arestio bachgen 17 oed ddydd Mawrth.

Cafodd y llanc ei arestio mewn llety yn Weymouth yn dilyn negeseuon maleisus gafodd eu gadael ar Twitter i Tom Daley.