Chris Bartley, Richard Chambers, Rob Williams a Peter Chambers
Mae’r rhwyfwr  Chris Bartley o Wrecsam, capten pedwarawd ysgafn Prydain, wedi cipio’r fedal arian wrth rwyfo.

Daeth y pedwarawd o fewn trwch blewyn i ennill, ond De Affrica aeth â’r fedal aur a Denmarc y fedal efydd mewn ras gyffrous dros bellter o 2 cilomedr. Roedd Awstralia’n un o’r ffefrynnau ond pedwerydd oedden nhw.

Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi mynegi ei falchder.

“Llongyfarchiadau i Chris Bartley ar berfformiad cyffrous sydd wedi dod â’r fedal gyntaf i Gymru yn ystod y Gemau Olympaidd.

“Gobeithiwn am fwy o lwyddiant i roi hwb i’n nifer ni o fedalau.”

Mae’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros chwaraeon yn Llywodraeth Cymru wedi dweud “da iawn Chris!”

“Gobeithio bydd hyn yn arwain at fwy o lwyddiant i Gymru,” ychwanegodd Huw Lewis.

Dywedodd hyfforddwr rhwyfo cenedlaethol Cymru, Ian Shore, fod y ras wedi bod yn “syfrdanol.”

“Aethon nhw mewn i’r ras yn anelu am aur felly maen nhw’n amlwg yn siomedig, ond am hysbyseb da i rwyfo – roedd hi’n ras mor agos.

“Mae Rhwyfo Cymru yn falch iawn o Chris a’r criw.”

Victoria Thornley

Gorffen yn y pumed safle wnaeth tîm rhwyfo wythawd Prydain, oedd yn cynnwys Victoria Thornley o Wrecsam.

Crafu trwyddo i’r rownd derfynol wnaeth wyth Prydain felly nid oedd y disgwyliadau’n uchel.

Yr Unol Daleithiau gipiodd y fedal aur, Canada yr arian, a’r Iseldiroedd yr efydd.