Vladimir Putin
Mae grŵp o gerddorion blaenllaw wedi galw ar Arlywydd Rwsia Vladimir Putin i roi gwrandawiad teg i aelodau o grŵp pync sy’n wynebu cyfnod yn y carchar am berfformio “protest gyfreithlon”.

Mae’r grŵp, Pussy Riot, yn wynebu hyd at saith mlynedd dan glo ar ôl cynnal perfformiad mewn eglwys gadeiriol ym Mosgo yn galw ar y Forwyn Fair i ddisodli’r Arlywydd Putin.

Mewn llythyr at bapur newydd y Times mae’r cerddorion, sy’n cynnwys Jarvis Cocker, Pete Townshend, Martha Wainwright a Neil Tennant, yn dweud eu bod yn bryderus am y driniaeth mae’r tair dynes wedi ei gael ers iddyn nhw gael eu harestio. Yn ôl adroddiadau nid yw’r merched yn cael bwyd ac roedden nhw wedi ymddangos yn y llys mewn caets.

Mae’r cerddorion yn galw am ryddhau Nadezhda Tolokonnikova, 22, Yekaterina Samutsevich, 29, a Maria Alekhina, 24.

Yn y llythyr dywed y cerddorion: “Rydyn ni’n credu’n gryf mai rôl artist yw cynnal protestiadau gwleidyddol, cyfreithiol a brwydro dros ryddid barn.

“Wrth iddo ymweld â’r DU yr wythnos hon, rydyn ni’n galw ar yr Arlywydd Putin i sicrhau bod y tair yn cael gwrandawiad teg.”

Mae disgwyl i Putin gwrdd â’r Prif Weinidog David Cameron am drafodaethau heddiw.