Mae gyrrwr bws Olympaidd swyddogol yn cael ei holi yn ar ôl i seiclwr gael ei daro i lawr a’i ladd.
Bu farw’r seiclwr 28 oed neithiwr ar ôl cael ei daro gan fws yn cludo newyddiadurwyr rhwng y safleoedd Olympaidd.
Dywedodd yr Heddlu Metropolitan bod dyn yn ei 60au wedi cael ei arestio ar safle’r ddamwain, tu allan i’r Parc Olympaidd yn Stratford, tua 9.28yh ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus. Cafodd ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu yn nwyrain Llundain ac mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd y seiclwr ei daro gan y bws deulawr toc wedi 7.30yh a bu farw yn y fan a’r lle. Mae’n debyg nad oedd yn un o’r athletwyr ac mae disgwyl i’w enw gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.
Yn dilyn y ddamwain, dywedodd y seiclwr Bradley Wiggins, a enillodd fedal aur ddoe, yr hoffai weld cyfraith yn cael ei chyflwyno i orfodi seiclwyr i wisgo helmed.