Mae’n debyg mai hunan-fomiwr fu’n gyfrifol am ymosodiad a laddodd wyth o bobl ac anafu 32 o rai eraill ar fws yn llawn o ymwelwyr o Israel ym Mwlgaria ddoe.

Yn ôl gweinidog yn llywodraeth Bwlgaria, roedd gan yr ymosodwr honedig drwydded yrru o Michigan yn yr UDA. Roedd y dyn sy’n cael ei amau o’r ymosodiad wedi cael ei weld ar gamerâu diogelwch ger y bws am bron i awr cyn yr ymosodiad.

Roedd nifer y rhai gafodd eu lladd wedi codi i wyth ar ôl i yrrwr y bws, oedd yn dod o Fwlgaria, farw yn yr ysbyty. Roedd chwech o’r rhai fu farw yn Israeliaid.

Fe fydd llywodraeth Bwlgaria yn darparu awyren i gludo 100 o Israeliaid na chafodd eu hanafu ond sy’n awyddus i ddychwelyd yn ôl i Israel.

Mae Israel yn beio Iran am yr ymosodiad mewn maes awyr yn ninas Burgas.

Mae’n un o gyfres o ymosodiadau sydd wedi targedu Israeliaid ac Iddewon dramor ac yn bygwth cynyddu’r tensiynau rhwng y ddau elyn. Mae Iran wedi gwadu cyfrifoldeb am ymosodiadau yn y gorffennol ond nid yw wedi gwneud sylw am yr ymosodiad ddoe.