Mae Grŵp Bancio Lloyds wedi dod i gytundeb i werthu 632 o ganghennau i Grŵp Co-operative mewn cytundeb gwerth £750 miliwn.

Mae’r banc, sydd wedi ei wladoli’n rhannol, yn gobeithio cwblhau’r cytundeb erbyn mis Tachwedd 2013.

O dan y cytundeb, fe fydd y Co-operative yn talu £350 miliwn i ddechrau a £400 miliwn yn seiliedig ar berfformiad hyd at 2027. Ond mae’r pris llawer yn is na’r £1.5 biliwn oedd wedi ei ddarogan yn wreiddiol.

Mae’r Trysorlys wedi croesawu’r cyhoeddiad, gan ddweud ei fod yn rhan o gyfres o fesurau i ddiwygio’r system fancio a gwella cystadleuaeth.