Dafydd Elis-Thomas
Yn ôl adroddiadau bore ma fe fydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn herio penderfyniad Plaid Cymru ar ôl iddo golli chwip ei blaid neithiwr.
Roedd Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi methu â phleidleisio yn y Senedd neithiwr yn y bleidlais ar ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd.
Mae’n debyg ei fod yn anhapus gyda datblygiadau’r drafodaeth ynglŷn â Lesley Griffiths a’r honiadau bod Llywodraeth Cymru wedi dylanwadu ar adroddiad ynglŷn ag ad-drefnu gwasanaethau iechyd.
Ni wnaeth yr aelod dros Ddwyfor Meirionnydd “ddarparu rheswm digonol am ei absenoldeb” yn ôl llefarydd Plaid Cymru.
Mae Dafydd Elis-Thomas wedi colli’r chwip dros dro tra bod proses ddisgyblu fewnol yn cael ei chwblhau. Ond mae’n debyg bod yr AC wedi dweud wrth y Post Cynta ar Radio Cymru bore ei fod yn bwriadu herio’r penderfyniad ac yn dadlau nad oedd yn absennol heb reswm.
Yn ôl y BBC, roedd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud yn gynharach ddoe: “Dwi’n meddwl ei fod o’n hen bryd i ni dyfu i fyny fel plaid (a pheidio) bod yn gŵn bach neu’n ail feiolin i’r Ceidwadwyr”.
Aeth yn ei flaen i ddweud, “Mae’r holl ddadl yma’n rhoi rhagfarn o flaen tystiolaeth a dwi ddim eisiau bod yn rhan o’r fath drafodaethau.”
Roedd y Gweinidog Iechyd wedi ennill y bleidlais o ddiffyg hyder yn ei herbyn neithiwr. Roedd 29 wedi pleidleisio yn erbyn a 28 o blaid.