Arlywydd Bashar Assad
Fe fydd y Cenhedloedd Unedig yn pleidleisio heddiw ynglŷn â chytundeb i geisio dod â’r trais yn Syria i ben.

Roedd oedi munud-olaf ddoe wedi methu â chael gwledydd y Dwyrain a Rwsia i gytuno ar fesurau ynglŷn â’r camau nesaf.

Mae’r cytundeb yn bygwth sancsiynau yn erbyn llywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad os nad yw’n symud milwyr ac arfau o ardaloedd poblog o fewn 10 diwrnod. Fe allai’r cytundeb yn y pendraw ganiatáu defnyddio trais i ddod â diwedd i’r argyfwng.

Mae Rwsia wedi gwrthwynebu hynny.

Mewn ymosodiad yn Namascus ddoe, cafodd y gweinidog amddiffyn a’i ddirprwy, a brawd yng nghyfraith Assad eu lladd.

Wrth gyfeirio at yr ymosodiad ddoe, roedd gweinidog tramor Rwsia, Sergey Lavrov wedi cyhuddo’r Gorllewin o annog y gwrthryfelwyr. Mae’n dadlau bod y cytundeb yn rhoi cefnogaeth i’r gwrthryfelwyr ac y gallai arwain at ragor o dywallt gwaed.

Mae’r llysgennad rhyngwladol Kofi Annan wedi dweud bod yr ymosodiad ddoe yn tanlinellu pwysigrwydd dod i gytundeb ar frys.