Baner Israel
Mae yna adroddiadau bod o leiaf dri o Israeliaid wedi cael eu lladd ar ôl i fom ffrwydro ar fws ym Mwlgaria.

Mae mwy na 20 wedi cael eu hanafu.

Mae’n debyg bod y bws yn llawn o ymwelwyr ifainc o Israel.

Digwyddodd y ffrwydrad yn ninas Burgas, tua 250 o filltiroedd i’r dwyrain o’r brifddinas Sofia. Mae Bwlgaria yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer ymwelwyr o Israel.

Credir mai Irac sydd y tu ol i’r ymosodiad.