Hywel Poole
Cafodd angladd un o beilotiaid yr Awyrlu, a fu farw pan fu dwy awyren jet Tornado mewn gwrthdrawiad uwchben y Moray Firth yn yr Alban, ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Bangor heddiw.
Roedd y Lefftenant Hywel Tomos Poole yn 28 oed ac yn gyn ddisgybl yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.
Cyn cychwyn y gwasanaeth, dywedodd y Capten Ian Gale, fod ‘H’ – fel yr oedd yn cael ei adnabod – yn “ddyn clên a thrugarog. Roedd ganddo amser i bawb ac roedd hefyd yn beilot hynod o dalentog.”
Cafodd yr emyn ‘Calon Lan’ ei chanu yn ystod y gwasanaeth.
‘Galluog a hyderus’
Cafodd Hywel Poole ei achub o’r safle a’i gludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.
Bu farw dau berson arall yn y ddamwain, Pennaeth Sgwadron Samuel Bailey, 36, o Nottingham ac Awyr Lefftenant Adam Sanders, 27, o Sir Gaerhirfryn. Cafwyd hyd i gorff Adam Sanders heddiw.
Cafodd person arall eu hanafu ac mae mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.
Roedd Hywel Poole yn gweithio yn Y Fali cyn symud i Lossiemouth ym mis Tachwedd 2011.
Dywedodd y Pennaeth Sgwadron Jonathan Moreton ei fod yn beilot “galluog a hyderus.”
Mae ymchwiliad wedi dechrau i achos y ddamwain.