Mae undeb Unite wedi cadarnhau bod gyrwyr bysus yn Llundain wedi derbyn cynnig i osgoi streic yn ystod y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Dywedodd yr undeb fod ei aelodau wedi derbyn £577 i weithio yn ystod y Gemau.

Roedd disgwyl i’r gweithwyr streicio ar Orffennaf 24, ond mae’r cynnig hwn yn golygu y bydd y gyrwyr yn derbyn £27.50 ychwanegol am bob dyletswydd yn ystod y cyfnod o 29 diwrnod.

Cafodd dwy streic flaenorol eu gohirio ar Orffennaf 5 a 24.

Dywedodd ysgrifennydd rhanbarthol Unite yn Llundain, Peter Kavanagh: “Ar ôl bron i flwyddyn o ymgyrchu, mae gan weithwyr bysus gytundeb teg sy’n cydnabod eu cyfraniad i gadw Llundain i symud yn ystod y Gemau Olympaidd.

“Gellid fod wedi osgoi tarfu mawr ar rwydwaith trafnidiaeth Llundain ac embaras rhyngwladol yn arwain at y Gemau Olympaidd pe bai TfL (Transport for London) a’r cyflogwyr wedi gwneud y peth cywir pan aeth Unite atyn nhw yn y lle cyntaf bron i flwyddyn yn ôl.

“Yn hytrach, roedd yn rhaid i’r gyrwyr bysus frwydro’n galed i gael cydnabyddiaeth.”

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr TfL, Leon Daniels: “Rydym yn croesawu’r newyddion bod arweinwyr Unite wedi derbyn y cynnig tâl hwn.”

Mae TfL hefyd wedi addo rhannu elw ychwanegol o’r Gemau Olympaidd gyda’i weithredwyr, ar yr amod fod y staff yn cael yr arian.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Maer Llundain, Boris Johnson, fod £8.3 miliwn wedi ei gynnig mewn ymgais i atal y streic a gafodd ei chynnal ar Fehefin 22.