Yr Arlywydd Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi datgan ei fod yn cefnogi priodasau hoyw gan godi gobeithion grwpiau hawliau y bydd arweinwyr eraill y byd yn dilyn ei esiampl.
Dywedodd Barack Obama ei fod wedi dod i’r penderfyniad dros gyfnod o rai blynyddoedd wrth siarad â theulu a ffrindiau.
Ond mae ei wrthwynebwyr wedi cyhuddo’r Arlywydd o newid ei feddwl er mwyn ceisio ennill pleidleisiau.
Mae nifer o wledydd, gan gynnwys Canada, Sbaen a’r Ariannin, yn caniatáu priodasau hoyw, ond mae llawer mwy o wledydd yn eu gwahardd.