Mae disgwyl i ragor o fanylion am gysylltiadau David Cameron â chwmni Rupert Murdoch gael eu datgelu heddiw pan fydd ei gyn cyfarwyddwr cyfathrebu yn rhoi tystiolaeth i Ymchwiliad Leveson.
Fe fydd Andy Coulson yn datgelu manylion ynglŷn â sut cafodd ei benodi i’r swydd ar ôl iddo ymddiswyddo fel golygydd y News of the World.
Yfory, fe fydd cyn prif weithredwr News International, Rebekah Brooks yn rhoi tystiolaeth.