Mae dau ddyn wedi eu harestio dan amheuaeth o ladd merch saith oed a thorri ei afu allan yn y gobaith y byddai’r aberth yn arwain at well cynhaeaf, yn ôl heddlu yng nghanolbarth India.
Dywedodd uwch heddwas yn rhanbarth Bijapur talaith Chhattisgarh fod Lalita Tati wedi diflannu ym mis Hydref.
Daethpwyd o hyd i weddillion ei chorff wythnos yn ddiweddarach.
Ychwanegodd Rajendra Narayan Das fod yr heddlu wedi arestio’r dynion yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd y dynion eu bod nhw wedi aberthu’r ferch er mwyn bodloni eu duwiau a gwella’r cynhaeaf, meddai.
Mae’r dynion yn rhan o lwyth brodorol sy’n dioddef o dlodi mawr ac anllythrennedd.