Roedd anrheg Nadolig hwyr i berchnogion cath aeth ar goll pedair blynedd yn ôl, wrth i’r creadur ail-ymddangos 20 milltir i ffwrdd.
Diflannodd Willow, sy’n 10 oed, ar ôl cael ei gadael allan i chwarae yn Princetown, Dyfnaint, yn 2007.
Roedd y gath yn un o dair diflannodd o’r un stryd yn y dref o fewn misoedd i’w gilydd.
Daethpwyd o hyd i un ohonyn nhw yn Taunton, Gwlad yr Haf, ond daeth Willow i’r fei yn Plymouth.
“Dyma’r anrheg Nadolig gorau erioed,” meddai ei pherchennog, Cristel Worth.
“Dydw i ddim yn gwybod sut y llwyddodd hi i wneud y daith 20 milltir o Princetown. Mae’n ffordd bell ar draws y gweunydd…”
Roedd teulu o ardal Elburton Plymouth wedi edrych ar ôl Willow am chwe mis cyn ei rhoi yng ngofal canolfan achub anifeiliaid.
Dim ond yr wythnos ddiwethaf y sylweddolodd y ganolfan fod gan y gath sglodyn micro oedd yn nodi enwau a chyfeiriad ei pherchnogion.
“Rydyn ni’n gwybod ei bod hi wedi bod yn byw yn Elburton ers chwe mis, ond mae’r tair blynedd a hanner cyn hynny yn ddirgelwch llwyr,” meddai Cristel Worth, sy’n 32 oed.
“Fe fyddai’n beth braf petai’r gath yn gallu siarad fel ein bod ni’n cael gwybod yr hanes i gyd.”
Dywedodd fod ei merch chwe blwydd oed, Izzy-May, yn cofio Willow, ond nad oedd y gath wedi cwrdd â Olivia-Rose, sy’n ddwy oed.