Rupert Murdoch
Mae cwmni News International wedi cadarnhau mai Rupert Murdoch, yn hytrach na thwyllwr, sy’n gyfrifol am gyfrif newydd ar wefan Twitter.

Dechreuodd y dyn busnes dadleuol drydar rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Dywedodd pennaeth yr uwchgwmni News International ei fod wedi penderfynu ceisio “cynnal ei ostyngeiddrwydd” a mynd ar ddiet yn 2012.

Ychwanegodd y dyn 80 oed ei fod wedi cael digon ar ei wyliau: “Yn ôl i’r gwaith yfory. Dyna ddigon o segura!”

Mae eisoes wedi mynd i drafferthion ar ôl gorfod dileu neges yn dweud fod “Prydeinwyr yn cymryd gormod o wyliau o ystyried nad oes unrhyw arian gan y wlad”.

Yn fuan wedyn derbyniodd neges gan ei wraig Wendi Deng yn galw arno i ddileu’r trydariad, ac yn ymddiheuro am y “jôc”.

Mae’n bosib y bydd Rupert Murdoch yn cael ei holi yn hwyrach ymlaen eleni gan Ymchwiliad Leveson, sy’n ystyried moeseg y cyfryngau yn sgil y sgandal hacio ffonau symudol arweiniodd at gau papur newydd y News of the World.