Mae Twrci yn dweud bod nifer y meirw yn sgil cyrch awyr gan lywodraeth Syria ar eu lluoedd yng ngogledd orllewin y wlad ddydd Iau (Chwefror 27) wedi codi i 33.
Dyma’r nifer fwyaf o farwolaethau i luoedd Twrci mewn un diwrnod ers i’r wlad ymyrryd yn y rhyfel cartref yn Syria yn ôl yn 2016.
Mae’r marwolaethau yn nodi cynnydd yn y gwrthdaro rhwng Twrci a lluoedd Syria, sy’n cael eu cefnogi gan Rwsia.
Maen nhw wedi bod yn brwydro ers mis Chwefror.
Bydd llysgenhadon o wledydd Nato yn cynnal trafodaethau brys heddiw (dydd Gwener, Chwefror 28) yn dilyn cais gan Dwrci.
Mae 54 o filwyr Twrci wedi marw yn nhalaith Idlib yng ngogledd orllewin Syria ers dechrau mis Chwefror.
Yn dilyn y cyrch awyr, casglodd torf tu allan i swyddfa conswl Rwsia yn Istanbwl, yn ôl asiantaeth newyddion Twrci, sy’n cael ei redeg gan lywodraeth y wlad.
Daeth y cyrch awyr ar ôl i ymladdwyr Syria, sy’n gwrthwynebu’r llywodraeth, ail-feddiannu tref strategol yng ngogledd orllewin y wlad gan luoedd y llywodraeth ddydd Iau (Chwefror 28), gan dorri’r cysylltiad â ffordd fawr bwysig ychydig ddyddiau’n unig wedi i’r llywodraeth ei hail agor am y tro cyntaf ers 2012.