Fe fydd dyn 39 oed yn cael ei ddedfrydu heddiw (dydd Gwener, Chwefror 28) am ladd cyn-ddarlithydd gyda bwa croes tu allan i’w gartref yn Ynys Môn.
Mae disgwyl i Terence Whall gael ei garcharu yn Llys y Goron yr Wyddgrug am lofruddio Gerald Corrigan, 74, a gafodd ei saethu gyda’r bwa croes yn oriau man Ebrill 19 y llynedd.
Cafwyd Terence Whall yn euog o lofruddio Gerald Corrigan ddydd Llun a dywedodd y barnwr Mrs Ustus Jefford wrth y rheithgor y byddai’n ei ddedfrydu i garchar am oes ond bod yn rhaid iddi benderfynu ar yr isafswm y bydd yn gorfod treulio dan glo.
Roedd Terence Whall, therapydd chwaraeon o Lundain yn wreiddiol, wedi gwadu ei fod erioed wedi cwrdd â Gerald Corrigan. Bu farw’r pensiynwr o’i anafiadau yn yr ysbyty ar Fai 11.
Ond clywodd y llys bod Terence Whall, wedi aros y tu allan i gartref Gerald Corrigan a disgwyl iddo ddod allan o’r tŷ i drwsio ei ddisg lloeren.
Apel
Yn dilyn y dyfarniad mae partner Gerald Corrigan, Marie Bailey, 64, wedi galw ar Terence Whall i ddatgelu pam ei fod wedi ei lofruddio.
Dywed Heddlu’r Gogledd bod ymchwiliad ar y cyd yn parhau yn dilyn honiadau bod y cwpl wedi rhoi £250,000 i Richard Wyn Lewis sydd wedi’i gael yn euog o dwyll ariannol.
Fe fydd Terence Whall a’i gyd-ddiffynnydd Gavin Jones, 36, hefyd yn cael eu dedfrydu am geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gynllwynio i roi car Land Rover ar dân.
Yn ystod yr achos roedd brawd Gavin Jones, Darren Jones, 41, a’i ffrind Martin Roberts, 34, wedi pledio’n euog i gyhuddiad o roi’r Land Rover Discovery ar dân. Fe fyddan nhw hefyd yn cael eu dedfrydu heddiw.