Mae prif weinidog Awstralia wedi cyhoeddi y bydd ymladdwyr tân gwirfoddol yn cael eu talu’n hael os ydyn nhw’n fodlon dod i’r adwy i helpu’r ymdrech i ddiffodd tanau gwyllt yn ardal New South Wales.
Mae tua pum milwn hectar o dir wedi cael ei losgi ledled y wlad dros y misoedd diwethaf, a naw o bobol wedi marw a rhagor na 950 o gartrefi wedi’u llosgi i’r llawr.
New South Wales yw talaith fwya’ poblog Awstralia, ac yno y mae’r difrod mwya’ wedi digwydd. .
Mae’r awdurdodau wedi rhybuddio y gallai’r tanau fudlogsi am fisoedd eto, gan achosi problemau i ymladdwyr tân sydd eisoes wedi blino’n llwyr
Mae gwrthblaid Lafur y wlad wedi galw ar y llywodraeth i ystyried talu iawndal i ymladdwyr gwirfoddol.