Fe  fydd Boris Johnson a’i gariad, Carrie Symonds, yn treulio’r gwyliau yn ynys Mustique yn y Caribbean eleni.

Mae papur The Times yn adrodd y bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn aros gyda’r teulu Von Bismark – sy’n ddisgynyddion o ganghellor cyntaf yr Almaen, Otto Von Bismark.

Mae Mustique a’i thraethau o dywod gwyn yn boblogaidd gyda chyfoethogion byd, yn cynnwys canwr y Rolling Stones, Mick Jagger, a’r ddiweddar Dywysoges Margaret (chwaer y Frenhines).