Mae arlywydd Brasil, Jair Bolsonaro, wedi’i gludo i’r ysbyty wedi iddo gwumpo a tharo’i ben yn ei gartref swyddogol.

Mae wedi’i gludo i ysbyty filwrol ym mhrifddinas y wlad, Brasilia, neithiwr (nos Lun, Rhagfyr 23) ac wedi cael profion ar ei benglog. Does yna ddim achos i boeni ar hyn o bryd, meddai llefarydd ar ei ran.

Fe fydd yr arlywydd yn aros yn yr ysbyty am 12 awr, dim ond i wneud yn siwr, meddai’r llefarydd wedyn.

Dyw’r datganiad swyddogol yn dweud dim mwy na bod y gwleidydd wedi llithro yn yr ystafell molchi a tharo’i ben.

Yn gynharach y mis hwn, roedd Jair Bolsonaro yn cwyno ei fod yn teimlo blinder llethol.