Mae arweinwyr Tsieina, Japan a De Corea wedi cadarnhau y byddan nhw’n trafod rhaglen niwclear Gogleldd Corea yn ystod eu cyfarfod dros y dyddiau nesaf.
Fe ddaw’r uwch-gynhadledd wrth i lywodraeth Pyngyang fynnu mwy o ryddid a llai o sancsiynau yn ei herbyn.
Fe fydd masnach rydd a chydweithio economaidd hefyd ar yr agenda rhwng Li Keqiang, Shinzo Abe a Moon Jae-in yn ninas Chengdu yn ne Tsieina.