Mae 25 o bobol wedi’u lladd ar ol i fws blymio dros ymyl ar ynys Swmatra yn Indonesia – wedi i frecs y cerbyd fethu.
Mae beth bynnag 14 o bobol eraill wedi’u cludo i ysbyty yn dilyn y ddamwain, yn cynnwys un dyn sydd mewn cyflwr difrifol iawn.
Fe ddigwyddodd y ddamwain toc cyn hanner nos neithiwr (nos Lun, Rhagfyr 23) ar ffordd droellog yn ardal Pagaralam yn Swmatra.
Fe blymiodd y bws 80 metr dros ymyl y ffordd, a ynd ar ei ben i afon ddofn. Roedd y gyrrwr wedi colli rheolaeth o’r cerbyd ar ol dringfa serth.
Roedd y bws ar ei ffordd i ddinas Palembang o Bengkulu.