Mae byddin America wedi cyhoeddi enw milwr a gafodd ei ladd ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 23) yn ystod brwydr yn Affganistan.
Roedd Michael Goble yn 33 oed, ac fe gafodd ei ladd wedi i fom ymyl ffordd ffrwydro yng ngogledd talaith Kunduz.
Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.
Roedd y Sarjant Michael Goble yn dod o New Jersey, ac yn aelod o fataliwn cyntf y Special Forces a oedd ar ddyletswydd yn ardal Kunduz.
Ei farwolaeth ef yw’r ugeinfed o blith milwyr yr Unol Daleithiau yn Affganistan eleni.