Mae’r awdurdodau yn Seland Newydd yn dweud eu bod wedi rhoi’r gorau i chwilio am ddau o bobol y maen nhw’n gredu sydd wedi’u lladd n ystod ffrwydrad llosgfynydd ar yr Ynys Wen.
Roedd o leiaf 37 o bobol yn ymweld a’r ynys pan ddigwyddodd y ffrwydrad annisgwyl ar Ragfyr 9.
Y gred ar y cychwyn oedd for 13 o bobol wedi marw, a rhagor na dau ddwsin wedi’u cludo i’r ysbyty gyda llosgiadau difrifol.
Mae nifer y meirwon wedi codi i 19 dros y penwythnos, ac mae’r rheiny’n cynnwys dau o bobol nad ydi eu cyrff wedi’u canfod.