Mae merch ysgol 17 oed o Loegr wedi marw yn ystod taith ysgol i Efrog Newydd.
Fe ddaethpwyd o hyd i’r disgybl chweched dosbarth Ysgol Ramadeg Bryste yn anymwybodol mewn yn y gwesty lle’r oedd yr ysgol yn aros ar Ragfyr 19.
Er iddi gael ei chludo i ysbyty cyfagos, fe fu farw yno.
Mae’r Swyddfa Gartref yn dweud eu bod yn “trafod gyda’r awdurdodau yn America” tra ar yr un pryd yn cefnogi teulu’r ferch.
Dyw’r farwqolaeth ddim yn cael ei hystyried yn un amheus.