Mae tân anferth ar drên yn Pacistan, wedi lladd beth bynnag 71 o deithwyr.

Fe gynheuodd y fflamau ar stof nwy wrth i’r trên ddynesu at dref Liaquatpur yn Punjab,.

Mae’r awdurdodau yn dweud fod nifer y meirw wedi cynyddu yn raddol ers ben bore heddiw (dydd Iau, Hydref 31) wedi i’r tân ymledu wedi i’r stof ffrwydro wrth i frecwast gael ei baratoi.

Mae prif weinidog y wlad, Imran Khan, wedi disgrifio’r digwyddiad fel “trasiedi erchyll”.

Mae ymchwilad ar y gweill i geisio penderfynu beth achosodd y ffrwydrad.