Fe bleidleisiodd bron pob un o’r Aelodau Seneddol Torïaidd sydd ddim am sefyll yn yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12, o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn refferendwm 2016.
Ymysg y cymeriadau blaenllaw o adain gymedrol y blaid sydd wedi dewis gadael San Steffan yn hytrach na sefyll etholiad, y mae’r cyn-aelodau cabinet Michael Fallon, Patrick McLoughlin a Nicky Morgan.
Mae 25 o Geidwadwyr a chyn Geidwadwyr wedi cyhoeddi na fydden nhw’n ceisio cael eu hail-etho pan fydd gwledydd Prydain yn pleidleisio fis Rhagfyr.
Dim ond dau o’r rheiny a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Pryder fod y blaid yn symud ymhellach i’r dde
Mae’r ecsodus yn peri gofid i rai y bydd y blaid yn symud ymhellach i’r dde yn yr etholiad nesaf gan golli ffigyrau cymedrol.
Dyw’r cyn-Geidwadwyr Nick Boles, Ken Clarke, Guto Bebb, Oliver Letwin, Justine Greening, Rory Stewart ac Amber Rudd, ddim am sefyll ac mae pob un ohonyn nhw’n honni iddyn nhw bleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn refferendwm 2016.