Mae dyn 27 oed o ogledd-ddwyrain Lloegr wedi cyfaddef iddo ladd ei fab tair wythnos oed, ac o geisio llofruddio mam y plentyn.

Fe ymosododd Denis Beytula ar ei fabi, Andrei Stefan, mewn ty yn Wallsend ar Hydref 2. Fe gafodd y bachgen bach ei gludo i’r ysbyty, ond bu farw ar Hydref 6.

Fe gafodd mam 21 oed y baban, Andreea Stefan, ei hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad.

Yn ystod ei ymddangosiad gerbron Llys y Goron Newcastle heddiw (dydd Iau, Hydref 31) fe gyfaddefodd Denis Beytula, sy’n hanu o Fwlgaria, iddo lofruddio’r babi, a cheisio llofruddio Andreea Stefan.

Mae disgwyl iddo ddychwelyd i’r un llys i gael ei ddedfrydu.