Mae “llwythi aruthrol” o gyffuriau yn cael eu smyglo i mewn i wledydd Prydain – er gwaethaf ymdrechion yr awdurdodau i’w rhwystro.
Dywed cyfarwyddwr yr Asiantaeth Troseddau Gwladol ,Nikki Holland, bod yr awdurdodau yn llwyddo i rwystro symiau enfawr o gyffuriau – yn cynnwys 50 tunnell o gocên, heroin a chanabis yn ystod y flwyddyn a hanner ddiwethaf – ond bod gormod o lawer hefyd yn llithro trwy’r rhwyd.
“Rydyn ni’n ymwybodol fod delwyr cyffuriau yn dal i ddelio,” meddai.
“Mae hynny ynddo’i hun yn peri gofid gan ein bod wedi atafael cymaint o gyffuriau. Ond mae’n dal i ddigwydd
“Mae’n amlwg fod yna lwythi aruthrol o gyffuriau yn dod i mewn.”