Mae cogydd adnabyddus sydd â seren Michelin wedi prynu bwyty’r Whitebrook ym mhentref Pennarth, Sir Fynwy, gyda’r bwriad o ehangu’r busnes a chanolbwyntio ar gynnyrch o Gymru.
Ynghyd â’r Walnut Tree yn Llanddewi Ysgyryd, dyma un o ddau fwyty â seren Michelin yn Sir Fynwy..
Dyma’r chweched flwyddyn yn olynol i’r Chris Harrod gadw ei seren Michelin, ac mae ei fwyty, the Whitebrook, wedi codi 11 lle i safle 38 yn nhabl ’50 Bwyty gorau Prydain’ The Good Food Guide.
Er bod Chris Harrod wedi bod yn geidwad ar yr adeilad ers yr 1970au, mae bellach yn berchen arno.
“Mae gennym lawer o gynlluniau cyffrous, ac r’yn ni wrth ein boddau am fod y pwrcasiad hwn yn ein galluogi i’w rhoi nhw ar waith yn y Whitebrook,” meddai.
“Nawr ein bod yn berchen ar y lle’n gyfan, byddwn yn uwchraddio tu fewn yr adeilad, gan ychwanegu rhagor o ystafelloedd gwely, gan gynnwys stafelloedd lle bydd modd cadw cŵn, a hefyd ehangu’r bwyty.”
Cafodd ei hyfforddi yn Le Manoir aux Quat’Saisons yn Ffrainc, ac mae’n rhoi pwyslais neilltuol ar gynnyrch o Ddyffryn Gwy.