Mae chwech o Aelodau Seneddol Cymru wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n sefyll yn etholiad Rhagfyr 12.

Ceidwadwyr

Mae Glyn Davies wedi cynrychioli Sir Drefaldwyn ers 2010. Bu’n Ysgrifennydd Preifat Seneddol yn Swyddfa Cymru rhwng 2010 a 2012 cyn cael y swydd yn ôl yn 2015.

Llafur

Mae Ann Clwyd wedi bod yn Aelod Senedfol yn cynrychioli Cwm Cyno ers 1984. Hi oedd y ddynes gyntaf i gynrychioli’r Cymoedd yn San Steffan. Cyhoeddodd nad oedd am sefyll yn etholiad cyffredinol 2015, cyn newid ei meddwl wedyn

Cipiodd Albert Owen sedd Ynys Môn oddi at Blaid Cymru yn etholiad 2001 a llwyddodd i’w chadw yn y pedwar etholiad cyffredinol ers hynny. Gwrthwynebodd rhyfel Irac, ac roedd o blaid ail refferendwm ar Brexit.

Mae Ian Lucas wedi bod yn Aelod Seneddol dros Wrecsam ers 2001. Tra’n Aelod Seneddol bu’n chwip i’r blaid Lafur o dan arweiniaeth Gordon Brown cyn cael ei benodi’n is-ysgrifennydd dros fusnes a diwygio rheoleiddio.

Mae Owen Smith wedi bod yn Aelod Seneddol dros Bontypridd ers 2010. Safodd yn erbyn Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y blaid Lafur yn 2016 a cholli.

Annibynnol

Guto Bebb sydd wedi cynrychioli Aberconwy yn San Steffsn ers 2010. Yn ystod ei gyfnod bu’n Is-ysgrifennydd i Gymru cyn symud ymlaen i fod yn Is-ysgrifennydd Amddiffyn. Collodd chwip y blaid Geidwadol ym Medi 2019 ar ôl pleidleisio yn erbyn y llywodraeth ar Brexit.